Cymraeg - Welsh
Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon
Sefydlwyd 1793
Richard J. Jones - Harbwr Fesitr
J.C. McDermott - Gweinyddwr
Saesneg - English
· Cartref · Doc Fictoria a'r Pier · Map y Porthladd · Map y Dref · Rhybuddion i Forwyr · Ffeithiau Llanw · Costau · Ceisiadau Mwrings · Peilota yn y Fenai · Saflleodd Bwiau Bar Caernarfon · Y Pwll · Rhifau Defnyddiol · Cysylltiadau
 
 
Mordwy Pwll Ceris

 
Er cael llun mwy o'r siart, cliciwch yma.
 
Nid yw mordwyo drwy'r Pwll mor anodd â ofnir gan ambell berchennog cwch - ond mae rhaid dewis yr amser cywir a bod yn ymwybodol o'r peryglon. Mae hyd yn oed cychwyr lleol a phrofiadol yn cael eu dal o dro i dro oherwydd diffyg gofal. Oherwydd cyflymder y lli yn y Pwll (sydd hyd at 8 knots ar adeg teidiau mawrion a chymaint a 5 knot hyd yn oed ar deidiau bychain), mae'n ofynol i gychod ei dramwyo yn ystod cyfnod y slac pryd mae'r lli yn arafu, cyn sefyll a newid ei gyfeiriad. Mae'r cyfnod yma yn parhau am tua chwarter awr ar adeg teidiau mawrion a thua hanner awr neu ddeugain munud ar y teidiau lleiaf.
Mae amser pen llanw (HWS) yn y Pwll yn digwydd 2 awr a 10 munud cyn amser pen llanw yn Lerpwl - ond mae'r tywyddd yn medru effeithio ar ei amser, a'i hyd. Mae gwynt cryf rhwng y de-ddwyrain a'r gorllewin yn medru achosi i'r slac fod ychydig hwyrach, a gwynt rhwng y gogledd-gorllewin a'r dwyrain (trwy'r gogledd) yn ei wneud yn gynharach. Caergybi yw'r Prif Borthladd agosaf y cyfeirir ato yn y cyhoeddiadau teidiau swyddogol, ond yr amserau yn Lerpwl yw'r mwyaf cyfleus i'w cyfeirio atynt yn achos y Pwll. Y rheswm yw bod y dywediad "dwy awr a deg munud cyn pen llanw Lerpwl" yn gyson yn rhoi amser slac pen llanw yn y Pwll, ar gyfnodau teidiau mawr a bach fel eu gilydd.
Wrth nesau at y Pwll, dylid sylw ar gyfeiriad a nerth y lli bob amser, rhag ofn i'r tywydd fod wedi effeithio arno,(neu i chwi fod wedi cam-gyfri'r amser!). Annoeth yw mentro i'r Pwll pan fydd y llanw yn llifo'n gryf oherwydd os digwydd unrhyw fethiant yn y llywio neu efo'r peiriant, gall y canlyniadau fod yn drychinebus.

MYND TUA’R DWYRAIN
Amseru
Y trefniant gorau yw cyrraedd ychydig yn gynnar, tua dwy awr a hanner cyn amser pen llanw Lerpwl, a chael mantais y diwethaf o'r lli i'r dwyrain. Gallwch farnu wrth nesau at Bont Britannia' os yw'r lli yn dal rhy gryf i chwi gychwyn i mewn ac os mae doeth fyddai troi yn ôl ac oedi am ychydig nes iddo arafu. Os y cyrhaeddwch yn hwyr, h.y. Ar ôl amser y slac (dwy awr a deg munud cyn amser pen llanw Lerpwl), mae'n bosib y bydd y lli i'r gorllewin wedi dechrau cyn i chwi gyrraedd pont y borth a rhaid cofio ei fod yn cryfhau yn rhyfeddol o sydyn yn eich erbyn yn y cyfeiriad yma, cymaint a knot ychwanegol pob deg mumud ar adeg teidiau mawrion. Y rheswm am hyn yw'r ffaith bod lefel y dŵr wedi dechrau gostwng ym mae caernarfon tra'i fod yn parhau i godi ym mhen dwyreiniol y fenai.
Cyfarwyddiadau
Llywiwch am fwa deheuol Pont Britannia gan gadw'r pyramid gwyn (1 cable i'r dwyrain o golofn ganol y bont) yn union ynghanol y bwa. (Mae 90 troedfedd/27.4 medr o uchder clir rhwng canol y bont a wyneb y dŵr ar ben llanw adeg teidiau mawrion) o'r bont, anelwch at bwynt hanner ffordd rhwng y pyramid a'r arwydd ar Price's Point; os yw'r lli yn dal i redeg i'r dwyrain, yn dibynnu ar ei nerth, bydd gofyn cywiro'r cwrs ac anelu yn agosach at y pyramid, ar y llaw arall os bydd y trai wedi dechrau hwyrach bydd angen cyfeirio ychydig mwy tuag at Price's Point. Erbyn cyrraedd gyferbyn a'r pyramid fe ddylai'r cwch fod ar y llinell arwain a geir o gadw y ddau olau, a'u tyrrau, (sydd ar y lan dan fwa deheuol y bont) mewn un llinell.
Mae rhan mwyaf cul sianel y Pwll yn y rhan yma lle mae tua 100 troedfedd/30 medr rhwng y Cribiniau a'r pyramid. Byddwch yn agos at y lan ond cadwch ar y llinell arwain hyd nes bydd Price's Point ychydig o flaen y bem ac yna newidiwch y cwrs i'r dde i basio tua 20-30 medr i'r ddehau o'r arwydd (S. Cardinal) ar Garreg y Pwll. Oddi yno, llywiwch i gyfeiriad y pwynt sydd rhyw cable i'r dwyrain o Price's Point; mae'r cwrs hwn eto yn eithaf agos i'r lan ond mae'n arbed carreg y Pwll yn gyfan gwvbl. (Yn ystod slac pen llanw mae tua 3 medr o ddŵr dros y graig ac felly'does dim angen mynd rhy agos at y lan heb fod eich drafft yn fwy na hyn).
Unwaith heibio'r pwynt, newidiwch y cwrs, yn ôl yr angen, i anelu ychydig i'r deau o'r golofn ar ochr Sir Fôn o Bont y Borth. I fod yn siŵr o glirio'r Platters, edrychwch yn ôl a sicrhau y medrwch weld rhan o fwa gogleddol Pont Britannia heibio Price's Point. Wedi pasio'r Platters, (fe welwch fwthyn ar y dde) medrwch anelu at ganol y Bont a diwedd y daith drwy'e Pwll.

MYND I'R GORLLEWIN
Amseru
Mae amser y slac i'w gael yr un fath y ffordd yma, wrth gwrs, ond nid yw'r amseru llawn mor bwysig ag yn y cyfeiriad arall; os byddwch yn fuan yna fe fydd y lli yn eich herbyn yn arafu pob yn dipyn ac os byddwch ychydig yn hwyr fe fydd lli y trai yn eich cario 'mlaen. Gall hyn olygu llai o reolaeth ar y cwch ond nid yw'n beryglus mewn cwch hawdd ei thrin ac os cymerwch ofal i osgoi y trobyllau. Os yn hwyr, ac yn union wedi pasio oddi tan Pont y Borth, dylid cadw yn gymharol agos i'r Platters i osgoi y llinell lle mae'r trai yn troelli ar ochr Sir F,n o'r sianel. Pen arall y Pwll hefyd, wedi pasio oddi tan Pont Britannia, dylid cadw i gyfeiriad y lan i osgoi lle mae'r dŵr yn troelli o gwmpas Carreg Frydan (sy'n sylfaen i golofn ganol y Bont).
Cyfarwyddiadau
Wedi pasio dan ganol Pont y Borth, llywiwch i gyfeiriad yr arwydd ar Garreg y Pwll (S. Cardinal) er mwyn arbed y Platters, ond unwaith heibio rheiny, llywiwch i gyfeiriad y pwynt sydd tua 1 cable i'r dwyrain o Price's Point. Cadwch yn agos i'r lan yn y fan hyn i arbed carreg y Pwll yn gyfangwbl (er nid yw hyn yn bwysig yn ystod slac penllanw heb fod y drafft yn fwy na 3 medr) ac yna newidiwch y cwrs i'r dde i basio 20 neu 30 medr i'r dehau o'r arwydd ar y Graig. Parhewch ar yr un cwrs nes y daw Price's Point i'r bem ac yna dechreuwch droi i'r chwith nes cael linell arwain y ddau olau er eu tyrrau tu isaf i ben ddeheuol Pont Britannia. Llywiwch yn ofalus ar y llinell hon nes cyrraedd y pyramid gwyn ac yna newidiwch y cwrs i'r dde i anelu am basio dan ganol bwa deheuol y Bont.
Cyffredinol
Y cwrs delfrydol yw'r hwn a weli ar y siart canlynol, ond nid oes rhaid ei ddilyn yn ddeddfol mewn cwch o ddrafft cymedrol, yn enwedig yn ystod slac pen llanw. Mae'r sianel yn un eithaf llydan ar yr adegau hyn' e.e. mae'n 100 troedfedd o led i long o ddrafft 4.5 medr, a chymaint â 200 troedfedd o led i gwch o ddrafft 1.2 medr. Mewn gwirionedd, mae digon o ddyfnder dŵr ar ben llanw i gychod o'r drafft lleiaf yma fynd yn syth dros Carreg y Pwll, a'r Platters, hyd yn oed ar deidiau bychain- er nad yw hyn i'w gymeradwyo.
Mae pwynt uchaf y Cribinnnau yn sychu tua 4.5 medr ac felly mae gofyn cadw'n glir o'r creigiau hyn beth bynnag maint neu uchder llanw. Os y mynnwch fynd trwy'r Pwll ar y slac ar ddiwedd y trai pan mae'r llanw’n isel, yna mae'n llawer pwysicach i ddilyn y cyrsiau ar y siart a bod yn ymwybodol iawn o ddrafft y cwch mewn perthynas a'r dyfnder dŵr ar y pryd.
Da o beth yw gwneud sawl tro trwy'r Pwll yn ystod slac pen llanw, i ddod yn gyfarwydd a'r sianel, cyn mentro ei wneud yn ystod y slac isel. Ac os i chwi ddewis ddod trwodd ar waelod llanw ond yn ansicr os bydd digon o ddyfnder, yna, ystyriwch ei dramwyo tua awr cyn y slac (h.y. tua dwy awr a 50 munud ar ôl pen llanw yn Lerpwl). Pryd hynny fe fydd tua 1 knot o lif i'r Gorllewin ar adegau teidiau mawrion ond tua 1.5 medr mwy o ddŵr (ar deidiau bychain bydd y cynydd rhyw 0.8 medr).