| |
| Ardal Peilota y Fenai |
|
| Cyfarwyddion Peilota |
Mae peilota yn orfodol yn Y Fenai, rhwng Ynys Seiriol a Bar Caernarfon i'r
math o longau dilynol:
- Llongau dros 20 medr o hyd sydd yn cario teithwyr.
- Pob llong dros 1500 G.R.T.
- Llongau yn cario llwyth peryglus.
Yn ychwanegol, yn achos llongau sy'n tramwyo'r Pwll:
- Pob llong sydd â thystysgrif teithwyr ac yn cario teithwyr (fe all tystysgrif esgusodol gael ei
ganiatau).
- pob llong gyda drafft dros 3.5 medr ac/neu 50 medr o hyd, ac/neu dros 500 G.R.T.
|
| Costau Peilota |
| Mae y tollau a benodwyd yn y rhestr yma yn daladwy ar gyfer gwasanaethau a
ddefnyddir ar, neu ar ol, 1af ionawr 2002. Mae unrhyw gyfeiriad i dunelliad llong yn cyfeirio at
"gross registered tonnes".
Gwasanaeth Gan Beilot:
- Am beilota llong o'r mor i'w safle oddimewn ffiniau yr Ardal Beilota, neu i'r
gwrthwyneb, 11.50c pob G.R.T.,
gyda lleiafswm o £90.00.
- Am roi llong yn ei safle o angorfa yng Nghaernarfon neu Fangor, fydd swm sydd
gyfartal a hanner y gost
berthnasol peilota fel y cyfrif yn ol 1.
- Am gadw peilot yn ôl ar fwrdd llong ar ofyn ei chapten £12.50 yr awr neu ran o awr, ond ni chodir
llai na 3 awr.
- Os, wedi mynychu llong yn ôl y gofyn, ac wedyn nid oes ei angen, bydd gan y peilot hawl i un
rhan o dair o gostau peilotau fel y cyfrif yn ôl 1.
- Gellir trefnu gwasanaethau ychwanegol i'r uchod efo'r Harbwr Fesitr, Caernarfon.
Costau Cludo Peilot:
- Mae cost cludo peilot unai at neu o long, ar y môr neu angorfa yn £75.00.
Tâlu Cyfrifon:
- Mae costau gwasanaeth beilota neu costau cludo'r peilot i'w talu ymhen
30 dydd o ddyddiad infois.
|
|
|