|
Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon yw'r awdurdod morwrol ym mhen gorllewinol y Fenai,
o Bont Britannia i Fae Caernarfon. Mae ganddo gyfrifoldeb i reoli mordwyaeth ac i gynnal cymorthau
morwriaeth o fewn ei ardal ond hefyd, fel yr awdurdod cymwys, i gynnal gwasanaeth peilot drwy y
Fenai ar ei hyd.
Mae'r Ymddiriedolaeth, yn paratoi a chynnal nifer o fwrings cychod yn yr Afon Seiont
ac yn Y Felinheli. Hefyd, mae yn gwasanaethu fel Rheolwr ar Farina Doc Fictoria, Caernarfon.
|